Kirsty Williams AC
David Rees AC
Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Stryd Pierhead
Caerdydd
CF99 1NA
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Stryd Pierhead
Caerdydd
CF99 1NA
E-bost: kirsty.williams@cynulliad.cymru
Ffôn: 0300 200 7277
26 Mehefin 2015
Annwyl Gadeirydd
Y Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru)
Diolch eto i'r Pwyllgor am ei adroddiad trylwyr a diddorol ar y Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru) a gyhoeddwyd ym mis Mai 2015.
Yn yr adroddiad, argymhellodd y Pwyllgor fy mod yn gwneud dadansoddiad pellach o'r cynnydd posibl yn y gwariant ar staff nyrsio asiantaeth/cronfa yn y tymor byr pe byddai'r Bil yn cael ei roi ar waith. Mae'r dadansoddiad hwnnw ynghlwm wrth yr ohebiaeth hon.
Yn dilyn eich argymhelliad, ysgrifennais at y Gweinidog ar 22 Mai 2015, yn gofyn am gopïau o'r fersiynau diweddaraf o gynlluniau tair blynedd Byrddau Iechyd Lleol, a oedd wedi'u cyflwyno, o 2015-16 i 2017-18. Roeddwn yn rhagweld y byddai'r rhain yn cynnwys gofynion ariannol cynlluniau'r Byrddau Iechyd Lleol dros dair blynedd, gan gynnwys amcangyfrifon o gostau nyrsys cronfa ac asiantaeth. Roeddwn yn rhagweld y byddai hynny wedyn yn fy ngalluogi i benderfynu a fyddai'r cynlluniau - os cânt eu rhoi ar waith - yn bodloni gofynion y Bil, neu a fyddai angen gwariant ychwanegol.
Ar 1 Mehefin, dywedodd y Gweinidog na fyddai cynlluniau tair blynedd y byrddau iechyd lleol, o 2015-16 i 2017-18, ar gael ar gyfer y diben hwn. Nododd y Gweinidog y byddai ei swyddogion yn gallu darparu: “indicative data which would be of assistance … in calculating an estimate of the relevant costs.”
Wrth aros am y wybodaeth ddangosol hon, ysgrifennais at y Gweinidog ar 9 Mehefin i ofyn a fyddai swyddogion yn gallu nodi, fel rhan o'r data dangosol hwn, os nad oedd unrhyw gynllun tair blynedd yn cynnwys bodloni canllawiau presennol y Prif Swyddog Nyrsio ar gyfer lefelau staffio ac unrhyw gyfeiriadau at neu amcangyfrifon o'r defnydd o staff cronfa ac asiantaeth yn y dyfodol. Sylwais fod drafft cynnar o gynllun tair blynedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd yn cyfeirio'n benodol at adolygu: “Nursing establishments to ensure adherence to Chief Nursing Officer staff staffing principles.”[1]
Ar 20 Mehefin, mewn gohebiaeth, rhodd y Gweinidog rywfaint o wybodaeth ddangosol, a lincs at nifer cyfyngedig o Gynlluniau Tymor Canolig Integredig Drafft, sydd eisoes ar gael yn gyhoeddus. Fodd bynnag, yn anffodus, nid oedd y wybodaeth honno'n cynnwys yr eglurhad y gofynnwyd amdano ynghylch costau staff cronfa ac asiantaeth a ragwelir.
Yn ei ohebiaeth ar 20 Mehefin, dywedodd y Gweinidog: “one or two of the individual plans make reference to the Chief Nursing Officer’s Principles, this is not a requirement of the plan.” Fodd bynnag, yn yr un ddogfen, dywedodd hefyd: “going forward it is expected that LHBs will use the triangulated approach to set nurse staffing levels.”[2]
Mae'r swyddogion a fu'n fy nghefnogi'n wreiddiol i ddatblygu'r Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru) wedi cynhyrchu'r dadansoddiad canlynol gan ddefnyddio'r wybodaeth a ddarparwyd gan y Gweinidog, y wybodaeth sydd eisoes ar gael i'r cyhoedd, a'r wybodaeth a gasglwyd o gyfarfodydd gyda:
· Dr Aled Jones, Prifysgol Caerdydd (un o awduron yr adroddiad diweddar 'Ymchwil i lefelau staffio nyrsys yng Nghymru')
· Charlette Middlemiss, Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru - Gwasanaethau a Rennir.
Mae wedi cymryd cryn amser i lunio'r dadansoddiad hwn, ac rwy'n ymddiheuro am unrhyw effaith y gallai hyn fod wedi cael ar amserlen y Pwyllgor. Deallaf y byddwch yn gofyn am estyniad gan y Pwyllgor Busnes ar gyfer cynnal trafodion Cyfnod 2 ar y Bil, ac rwy'n ddiolchgar i chi am wneud hynny. Os bydd hynny'n briodol, erbyn diwedd trafodion Cyfnod 2, fy mwriad fyddai defnyddio'r dadansoddiad hwn i gynhyrchu Memorandwm Esboniadol diwygiedig.
Rwyf wedi anfon copi o'r ohebiaeth hon at y Gweinidog, er gwybodaeth.
Yn gywir
Kirsty Williams
Aelod Cynulliad Brycheiniog a Sir Faesyfed
[1]Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, Cynllun Tymor Canolig Integredig Drafft 2015/16 - 2017/18, tudalen 32, trafodwyd gan Gyngor Bro Morgannwg, Cydbwyllgor Cyswllt â'r Sector Gwirfoddol, 23 Mawrth 2015, i'w weld yma: http://www.valeofglamorgan.gov.uk/Documents/_Committee%20Reports/Voluntary%20Sector%20Joint%20Liaison/2015/15-03-23/15-03-23---Integrated-Medium-Term-Plan.pdf
[2] Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, 20 Mehefin 2015.